O'r fan hon, byddwch yn archwilio byd gwynt ar y môr gyda RWE
Darganfyddwch wynt ar y môr gyda RWE! Byddwch yn datgelu swyddogaethau craidd, arferion cynaliadwy a chyfleoedd gyrfa cyffrous yn y sector deinamig hwn.

Cofrestrwch ar unwaith!
Gallwch gychwyn y cwrs ar unwaith!
Grŵp Oed
Mae croeso i ddisgyblion oedran 14-18 wneud cais!
Hwb i'ch CV
Cael tystysgrif ar ôl cwblhau'r cwrs
Cyflawni ar eich cyflymder eich hun
Dros 7 awr o gynnwys
Enroll immediately
You can start the course straight away!
Age range
Students aged 14-18 are welcome to apply!
Boost your CV
Get a certificate upon completion
Complete at your own pace
Over 7 hours worth of content
Trosolwg o'r Rhaglen
A oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn y sector ynni adnewyddadwy? Bydd y rhaglen hon yn dangos sut i gynaeafu pŵer y gwynt i gynhyrchu trydan cynaliadwy a gwella ein hôl troed amgylcheddol. Byddwn yn rhoi cyflwyniad i chi ar yrfaoedd a ffyrdd o ymuno â’r diwydiant dynamig hwn er mwyn ichigael eich troed yn y drws a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol!
Beth sydd wedi'i gynnwys
Byddwch yn archwilio maes arloesol ynni gwynt ar y môr – o ddatblygu ffermydd gwynt ar y môr i ystyriaethau amgylcheddol a phrosiectau peirianegol arloesol sy'n creu cryn argraff ar y sector ynni gwynt ar y môr. Hefyd, bydd cyfle i chi gael gwybod am yr amrywiaeth o yrfaoedd a ffyrdd o ymuno â’r sector cyffrous hwn! Byddwch hefyd yn cwblhau cyfres o gwisiau a gweithgareddau llawn hwyl er mwyn helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth. Byddwch yn cwblhau'r cwrs gyda phortffolio i'w lawr lwytho yn nodi eich llwyddiant a'ch cynnydd.
Byddwch yn dysgu am swyddogaethau sylfaenol ffermydd ynni gwynt ar y môr yn ogystal â rhai agweddau allweddol y diwydiant, y byddwn yn manylu arnynt ymhellach drwy gydol y rhaglen. Beth arall? Byddwch yn cwrdd â'n partner, RWE, ac yn darganfod meysydd a llwybrau gyrfaol o fewn y sefydliad. Hefyd, byddwn yn cael golwg ar amcanion craidd a strategaethau cynaliadwy RWE. Paratowch am eich gweithgaredd a’ch cwis cyntaf hefyd!
Byddwn yn archwilio beth yw gwasanaethau ynni gwynt ar y môr yn RWE ac yn darganfod sut mae’r cwmni'n rhoi ei arbenigedd ar waith ledled y byd. Byddwn yn ymchwilio i hanfodion y ffordd y mae ffermydd gwynt ar y môr yn gweithio a sut y cânt eu hadeiladu drwy ddarlithoedd diddorol ac astudiaethau achos go iawn er mwyn mireinio eich dealltwriaeth o’r sector hwn. Rhowch eich meddyliau ar waith, gan fod y modiwl hwn hefyd yn cynnwys cwisiau a gweithgareddau ystyriol!
Mae cynaliadwyedd yn air poblogaidd sy'n dod yn fwy cyffredin ym myd busnes ond, yn RWE, mae cynaliadwyedd yn rhan annatod o weithrediadau'r cwmni. Yn y modiwl hwn, byddwn yn cael golwg ar y gwaith manwl a'r ystyriaethau gofalus sy'n sail ar gyfer cynyddu arferion cynaliadwy yn RWE. Hefyd, byddwn yn edrych ar bwysigrwydd diogelu’r amgylchedd yn yr ardaloedd lle mae ffermydd gwynt ar y môr wedi'u lleoli. Byddwch yn barod am ragor o astudiaethau achos, gweithgareddau a chwisiau yn y modiwl hwn!
Mae’r sector ynni adnewyddadwy yn datblygu drwy’r amser. Yn y modiwl hwn, byddwch yn darganfod prosiectau arloesol sy'n rhoi’r diwydiant ynni gwynt ar y môr ar flaen y gad o ran newid amgylcheddol. O robotiaid i ddronau, byddwch yn dysgu pam mae RWE yn arloeswr ym maes ynni gwynt ar y môr. Byddwch hefyd yn edrych ar bwysigrwydd gwaith ymchwil yn y diwydiant ynni adnewyddadwy, yn enwedig yn RWE lle mae gwaith ymchwil yn sail i arloesedd a datblygu.
Ydych chi’n hoffi’r syniad o ddilyn gyrfa ym maes ynni gwynt alltraeth a chael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd? Newyddion gwych! Byddwn yn ymchwilio i’r gyrfaoedd sydd ar gael yn y diwydiant, gan gynnwys gyrfaoedd cynnar yn RWE, beth i’w ddisgwyl yn y broses gwneud cais, a pha sgiliau y bydd eu hangen arnoch i lwyddo. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgaredd hunanwerthuso; bydd hyn yn ymarfer gwych i ddarganfod eich cryfderau a’ch gwendidau! Paratowch am siwrne i wneud gwahaniaeth go iawn yn y diwydiant ynni adnewyddadwy.
Efallai y byddwch yn credu bod gyrfa yn y sector ynni adnewyddadwy'n teimlo'n addas i chi! Byddwch yn dysgu pa sgiliauyn uniony byddwch eu hangen i ffynnu yn RWE. Byddwch yn archwilio gwaith tîm, cyfathrebu, gwrando ac arweinyddiaeth. Ar ôl cipolwg cyflym ar sgiliau cyflogadwyedd, byddwch yn cwblhau eich gweithgaredd olaf, sef crynhoi popeth y byddwch wedi’i ddysgu drwy gydol y rhaglen, i'ch paratoi am yrfa lwyddianus yn y diwydiant ynni adnewyddadwy.
Overview

What's included

Proses ymuno syml
1
Ymuno
Cofrestru cyflym ac am ddim
2
Dechrau dysgu
Mynediad i fodiwlau dan arweiniad arbenigwyr
3
Derbyn tystysgrif
Ennill tystysgrif cwblhau cwrs
Manteision Profiad Gwaith Rhithwir
What is Virtual Work Experience?
Sefyll allan i gyflogwyr
Adeiladu sgiliau allweddol
Cysylltu â RWE
Stand out to employers
Build key skills
Connect with RWE

A simple sign up process
1
Sign up
Quick and free registration
2
Start learning
Access expert-led modules
3
Get certified
Gain a completion certificate
What is Virtual Work Experience?
Stand out to employers
Build key skills
Connect with RWE
Cwestiynau â ofynir yn aml
Yma gallwn ateb unrhyw gwestiynau am y profiadau y gallech eu cael. Os nad yw'ch cwestiwn ar y rhestr - cysylltwch â ni yma.
Mae ein cyflwyniad i Wynt Alltraeth wedi ei annelu tuag at oedran 14-18 mlwydd oed ac wedi eu selio ar y gynulleidfa hon i'w helpu tuag at ddyfodol yn y sector.
Fodd bynnag, canllaw yw hyn ac fe groesawn unrhyw un sydd â diddordeb i ddysgu mwy am y diwydiant cyffrous hwn!
Mae RWE yn recriwtio prentisiaid a graddedigion bob blwyddyn i'n sector Gwynt Alltraeth ond hefyd ar draws ein busnes cyfan yn RWE. Mae llawer o gyfleoedd ar gael. I wybod mwy am gyfleoedd ar gael yn y DU, dilynwch y linc yma: https://uk.rwe.com/career/
Arwyddwch fyny i'n grwp talent gyrfaoedd cynnar i fod y cyntaf i wybod am swyddi ar gael efo RWE Gwynt Alltraeth.
Mae'r broses recriwtio am brentisiaeth technegydd tyrbin gwynt fel arfer yn digwydd ym mis Ionawr/Chwefror, mae yna gyfleoedd eraill i'w darganfod drwy'r flwyddyn hefyd.
A fyddaf yn derbyn tystysgrif ar ddiwedd y rhaglen?
Byddwch yn derbyn tystysgrif ar ddiwedd y rhaglen. Fe fydd ar gael i'w lawr lwytho unwaith fydd y rhaglen wedi ei gwblhau.
Sut fedraf ddileu fy nghyfrif?
Gallwch ddileu eich cyfrif drwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod:
A fedrwch sicrhau eich bod yn gallu mewngofnodi drwy ddilyn y linc ganlynol: https://www.springpod.com
Ar ol mewngofnodi, cliciwch eich enw yn y gornel dde, cliciwch osodiadau ac wedyn 'dileu cyfrif'.
FAQs
Here we can answer any questions about the experiences you may have. If your question isn’t on the list - please contact support here.
Our Introduction to Offshore Wind is aimed at 14-18 year olds and built with that audience in mind to help them prepare for their future careers.
However, this is more of a guideline and we welcome participation from anyone who is interested in learning more about this exciting industry!
RWE recruit apprentices and graduates each year within offshore wind, but also across the wider RWE business. There’s lots of opportunities. To find out more about these opportunities in the UK, click here. https://uk.rwe.com/career/
Sign up to our early careers talent pool to be the first to hear when our new vacancies a RWE Offshore wind are launched.
Recruitment for wind turbine technician apprenticeships typically happens in Jan/Feb with other opportunities found throughout the year.
Will I receive a certificate on completion of the programme?
You will receive a certificate on completion of your programme. It will be made available to download whenever your programme is marked as complete.
How can I delete my account?
You can delete your account following the below steps:
Can you please ensure you log into your account at the following link: https://www.springpod.com
Once logged in, click on your name in the top right-hand corner, select settings and then ‘delete account’.